Adnoddau defnyddiol eraill
Dyma ragor o ddolenni at ddeundyddiau a allai fod o gymorth i chi wrth addysgu. Caiff adnoddau pellach eu hychwanegu pan fyddant ar gael.
Mae gwefan yr ASB yn rhoi gwybodaeth gefndir ar waith yr ASB.
Mae’r ASB wedi datblygu:
- gweithgaredd rhyngweithiol, sef ‘diogelwch bwyd yn y gegin’, i’w ddefnyddio yn eich dosbarth. Mae’r gweithgaredd hwn yn mynd law yn llaw â nodiadau eglurhaol i athrawon;
- llyfr gweithgareddau ar yr Hanfodion Diogelwch Bwyd (Coginio, Glanhau, Oeri a Chroeshalogi), sydd ar gael i’w argraffu;
- sianel YouTube yr ASB, sy’n cynnwys cyfres o fideos byr ar ddiogelwch bwyd i ddangos i chi sut i gadw bwyd yn ddiogel. Maent hefyd yn trafod croeshalogi, glanhau, oeri a choginio.
Mae’r ASB hefyd wedi datblygu nifer o gemau rhyngweithiol, sy’n bwriadu atgyfnerthu pwysigrwydd diogelwch bwyd ac arferion hylendid da yn y cartref, yn y gegin ac wrth drin bwyd:
DOLENNI GWEFANNAU ALLANOL
YMWADIAD:
Nid yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Bydd angen dyfais â ‘Flash’ arni er mwyn chwarae rhai gemau.